Beth Sydd Ymlaen?
Beth bynnag eich breuddwydion neu’ch uchelgeisiau, eich gobeithion neu’ch dyheadau, bydd rhywbeth i chi yn sgiliaucymru. Mae’r digwyddiad yn rhyngweithiol ac fe gewch chi brofiad uniongyrchol o’r llu o arddangosiadau cyffrous. Mynnwch weddnewidiad ar yr un pryd â dysgu am yrfa ym maes therapi harddwch, trwsiwch gar wrth ddysgu am yrfa mewn mecaneg fodurol, darllenwch y newyddion wrth ddysgu am yrfa ym maes cyfryngau darlledu, chwythwch eich plwc wrth ddysgu am yrfaoedd ym maes cemeg. Mae’r cyfan i’w gael yn sgiliaucymru.
Mae cael hyd i’ch llwybr yn sgiliaucymru yn rhwydd gyda’r chwe pharth gwahanol.
- Yr Amgylchedd Adeiledig
- Celfyddydau Diwylliannol a Chreadigol
- Peiriannu
- TG a Gweinyddu Busnes
- Gwasanaethau Proffesiynol a Lletygarwch
- Cyngor, Addysg a Hyfforddiant
Rho gynnig ani. Hoffi hi. Cer amdani. Gweithgareddau
• Edrychwch dan y boned i ddarganfod cymhlethdod mecaneg ceir
• Byddwch y cyntaf heibio’r postyn ennill ar y ceffyl mecanyddol
• Dysgwch am ynni adnewyddadwy a generadwch bŵer drwy bedalu beic
• Dechreuwch, stopiwch ac amrywiwch gyflymder rheolyddion modur
• Gosodwch deil mur ar nodwedd fosaig sgiliaucymru
• Dysgwch sut mae adeiladu’ch gwefan eich hun a thrafodwch ddelweddau gyda’r meddalwedd diweddaraf un
• Syfrdanwch gan wyddoniaeth wrth i arbenigwyr ddangos i chi sut mae cynhyrchion bob dydd yn cael eu gwneud – popeth o blastig i bils
• Chwaraewc ‘Splat the Rat’ a dysgwch am yrfa ym maes rheoli plâu
• Byddwch yn greadigol a chynhyrchwch moctêl i dorri syched
• Rhowch brawf ar eich cyd-drefniant gyda’r ymarfer ‘Nuts and Bolts’ i weld sut sgôr gewch chi ar y bwrdd blaenwyr
• Profwch eich dawn wrth dyfu a photiwch eich planhigyn eich hun
• Arhoswch ar ochr gywir y gyfraith a chymerwch ran yn y cwis cyfreithiol
• Mynnwch gymeriad newydd a thrïwch wisg ac offer ymladd tân ymlaen
• Ewch i mewn i’r safle adeiladu a rhowch gynnig ar dechnegau paentio ac addurno, gwaith saer ac asiedydd a gwaith phlymio a thrydanol
• Darganfyddwch leoliad eich organau hanfodol o fewn y sgerbwd dynol
Llwyfan Perfformaid Sgiliau
Bydd perfformiadau ac arddangosiadau cyffrous ar lwyfan pwrpasol a fydd yn eich syfrdanu a’ch ysbrydoli o ddawns i weddnewidiadau i arddangosiadau coginio i arbrofion gwyddoniaeth ac arddangosiadau ffitrwydd.
Noddir y Theatr Sgiliau gan
Bydd rhaglen gyflawn o gyflwyniadau gan siaradwyr o bwys ac enwogion yn y theatr gyflwyniadau.
Cystadlaethau Sgiliau
Mae Cystadlaethau Sgiliau yn cynnig budd sylweddol i’r sawl sy’n ymgeisio ac yn eu cefnogi gan gynnwys adeiladu hyder a hunan-barch, rhoi cyffro i mewn i ddysgu a chyrhaeddiad a hybu rhagoriaeth mewn sgiliau.
Bydd gan ymwelwyr â sgiliaucymru cyfle i weld y cystadlaethau hyn ar waith ac yna roi cynnig arnynt o fewn ein mannau dynodedig 'rhowch gynnig arni'.
Bydd gan Proskills enillwyr pob un o’u chwe chystadleuaeth derfynol ranbarthol yn y DU yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, pob un yn gweithio ar ei gerbyd ei hun each o dan amodau cystadlaethau Sgiliau’r DU. Ar hyn o bryd nid yw Gwydro cerbydau modur yn rhan o gystadlaethau Sgiliau’r DU ond drwy gynnal cystadleuaeth Meistr Ffitiwr y DU yn 2010 y nod yw integreiddio â digwyddiadau Sgiliau’r DU a’r Byd o 2011 ymlaen ac i Dechnegwyr Cerbydau Modur allu cystadlu ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol fel ei gilydd.
Bydd Groundwork yn lansio cystadleuaeth newydd a chyffrous yn y digwyddiad a fydd yn rhoi prawf ar sgiliau a datblygiad timau o bobl ifanc wrth gyflwyno prosiectau adfywio amgylcheddol. Bydd gan ymwelwyr gyfle gwych i wylio sgiliau amgylcheddol ar eu gorau.
Holwch yr Arbenigwyr
Ddim yn siŵr beth rydych chi am ei wneud neu sut i gael y cymorth cywir? Bydd arbenigwyr pwrpasol wrth law i roi’r holl gyngor ac arweiniad mae arnoch chi eu hangen mewn ymgynghorfeydd galw-heibio arbenigol. Fe allwch chi gael cyngor unigol am yrfaoedd a’r llwybrau addysg a hyfforddiant sydd ar gael.
Oriau Agor
Gallwch chi ymweld â sgiliaucymru ar unrhyw adeg. Gyda chymaint i’w weld rydym yn cynnig cyfnodau gorgyffwrdd ar gyfer grwpiau mawr er mwyn i bawb gael cyfle i geisio’r nodweddion rhyngweithiol. Rydym yn argymell ymweld â’r digwyddiad am ryw ddwy awr. Os hoffech chi drefnu ymweliad hwy neu er mwyn osgoi’r torfeydd mae gennym agoriad arbennig ddydd Sadwrn.
Dydd Iau 16 Medi 9.30am – 3pm
Dydd Gwener 17 Medi 9.30am – 3pm
Dydd Sadwrn 18 Medi 10am – 4pm
Pwy Sydd Yno?
Cliciwch yma i weld y rhestr bresennol o gwmnïau sy’n arddangos, mae mwy yn trefnu eu lle bob dydd. Cewch ddarllen ychydig am bob cwmni a chlicio drwodd i’w gwefannau nhw. Mae llawer o gwmnïau yn cynnig llwybrau gyrfa gwahanol felly cewch ddysgu mwy a gwneud argraff gyntaf wych.


Partner Radio:


Dilynwch ni ar: