Cystadlaethau Sgiliau

Mae WorldSkills UK yn fframwaith o gystadlaethau sgiliau rhanbarthol a chenedlaethol a gyflwynir bob blwyddyn ledled y DU i bobl ifanc ac oedolion. Defnyddir y cystadlaethau yn fodd i arddangos rhagoriaeth i helpu i godi safonau hyfforddiant a pherfformiad, gan y bu sgiliau o’r radd flaenaf a chystadleurwydd rhyngwladol.

Mae’n bwysicach byth codi ymwybyddiaeth o’r cystadlaethau hyn yng Nghymru gan mai’r DU fydd yn cynnal WorldSkills yn 2011.

Cafodd y sawl a ymwelodd â sgiliaucymru dydd Iau gyfle gwych i weld dwy gystadleuaeth sgiliau ar waith. Ar y dydd Gwener a’r dydd Sadwrn roedd y mannau cystadleuaeth hyn yn troi’n stondinau ‘Rhowch Gynnig Arni’ er mwyn i ymwelwyr geisio’r sgiliau drostynt eu hun.

Groundwork Cymru

Cystadleuaeth dydd Iau
Dyma gystadleuaeth derfynol fyw'r Gystadleuaeth Sgiliau Adfywio Amgylcheddol. Roedd chwe thîm o rannau gwahanol o Gymru wedi dylunio ac adeiladu prosiect garddwriaethol. Cafodd y timau eu profi ar eu sgiliau garddwriaethol, adeiladu a gwaith tîm. Roedd ymwelwyr yn gallu gwylio’r timau ar waith.

Gweithgareddau dydd Gwener a dydd Sadwrn
Croesawyd cynrychiolwyr o Lantra a Techniquest i’r stondin a gynhaliodd weithgareddau sgiliau a chrefftau cefn gwlad, ynni adnewyddadwy a gwyddoniaeth ac artist amgylcheddol a groedd waith celf gan ddefnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu.

Cystadleuaeth Derfynol Genedlaethol Prif Ffitiwr y DU

Cystadleuaeth dydd Iau
Dyluniwyd cystadleuaeth Prif Ffitiwr y DU i ddod o hyd i dechnegydd gwydro modurol gorau’r DU. Roedd terfynwyr o bob rhan o’r DU yn cystadlu yn y gystadleuaeth derfynol hon i ddod o hyd i’r enillydd cyffredinol i gynrychioli’r DU yn y gystadleuaeth ryngwladol yn Dusseldorf ddiwedd Medi.

Roedd chwe therfynwr yn gweithio ar chwe cherbyd o dan lygaid gwyliadwrus chwe barnwr a phrif farnwr a hynny dan amodau cystadleuaeth llym.

Gweithgareddau dydd Gwener a dydd Sadwrn

Gan groesawu cynrychiolwyr ProSkills, Trico, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe roedd y stondin yn cynnwys technegau gwydr lliw gan gynnwys dylunio, gwaith celf, a thorri. Cafodd ymwelwyr gyfle i ymuno â gweithdy 15 munud i gynhyrchu eu bathodyn, tlws neu dorch allweddol gwydr eu hun. Roedd gweithgareddau eraill yn cynnwys y cyfle i ddefnyddio gwasg argraffu sy’n dangos gweithgynhyrchu uwch dechnoleg heb hyd yn oed faeddu eu dwylo!