Cystadleuaeth i ennill yr iPad diweddaraf
Mae iPad Apple yn chwyldroadol, gallwch chi fwynhau pori’r We, darllen ac anfon e-bost, mwynhau ffotograffau, gwylio fideos, gwrando ar gerddoriaeth, chwarae gemau, a llawer iawn mwy - i gyd wrth fynd o gwmpas!Felly sut mae cael gafael ar un? Byddwn ni’n dewis un dilynwr facebook lwcus ar hap i ennill iPad. Y cyfan mae’n rhaid ei wneud yw dod yn ddilynwr ar facebook ac fe allech chi fod yn enillydd. Wir mae mor hawdd â hynny!

Ddim yn siŵr ble mae’r fagl? Does yna ddim un ond cymerwch gip ar y telerau ac amodau llawn isod.
Telerau ac amodau’r Gystadleuaeth Apple iPad
1. Drwy ddod yn ddilynwr ar facebook cewch eich cynnwys yn y gystadleuaeth rad ac am ddim i ennill iPad Apple. Tybir bod pob cyfranogwr wedi derbyn, ac yn cael ei rwymo gan, y telerau ac amodau hyn a chan unrhyw ofynion eraill a bennir yn y deunydd hyrwyddol fel pe baent wedi eu pennu yn y telerau ac amodau hyn.
2. Y dyddiad cau am y gystadleuaeth rad ac am ddim yw 18 Medi 2010 a rhaid i geisiadau ddod i law erbyn 2359 awr ar y dyddiad hwn. Mae ymgeisio’n digwydd drwy gofrestru’n ddilynwr sgiliaucymru ar facebook.
3. Mae’r gystadleuaeth rad ac am ddim ar agor i breswylwyr Cymru sy’n 14 oed neu’n hŷn, ac eithrio gweithwyr cyflogedig yr Hyrwyddwyr neu gwmnïau proffesiynol sy’n gysylltiedig â sgiliaucymru a’u teuluoedd uniongyrchol neu unrhyw un arall sy’n gysylltiedig yn broffesiynol â’r hyrwyddiad. Dim ond un cais a ganiateir gan bob aelwyd. Nid oes angen prynu dim i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
4. Efallai y gofynnir i’r enillydd gydweithredu â’r Hyrwyddwr at ddibenion cyhoeddusrwydd os bydd angen.
5. Mae gan yr Hyrwyddwr yr hawl i anghymhwyso unrhyw gais nad yw’n cael ei wneud yn unol â’r telerau ac amodau hyn. Caiff ceisiadau trydydd parti neu swmp eu hepgor o’r gystadleuaeth. Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau nad yw’r Hyrwyddwr yn eu derbyn. Nid oes unrhyw wobr amgen neu arian yn ei lle ac nid yw unrhyw elfen o’r wobr yn drosglwyddadwy.
6. Yr enillydd fydd y cais cyntaf i gael ei dynnu ar hap o’r rhestr o ddilynwyr gan berson annibynnol cyn pen 28 diwrnod ar ôl y dyddiad cau 18 Medi 2010. Caiff yr enillydd ei hysbysu mewn e-bost drwy facebook erbyn 30 Hydref 2010. I gael enw a sir yr enillydd anfonwch amlen barod â stamp wedi ei marcio "Facebook i-Pad " i Prospects Events, 24 High Street, Taunton, TA1 3PN.
7. Os bydd yr Hyrwyddwr yn methu â chysylltu â chi (ar ôl defnyddio ymdrechion rhesymol i wneud hynny) o fewn cyfnod rhesymol ar ôl tynnu’r enillydd yna mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i dynnu enw enillydd arall.
8. Mae penderfyniad yr Hyrwyddwr yn derfynol ac ni fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ohebiaeth.
9. Yr Hyrwyddwr yw Prospects Events, rhan o Prospects Services Limited. Swyddfa gofrestredig: Prospects Services Limited, Prospects House, 19 Elmfield Road, Bromley, BR1 1LT. Rhif Cofrestru yng Nghymru a Lloegr 3042176.


Partner Radio:


Dilynwch ni ar: