Diogelu Data

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn casglu gwybodaeth oddi wrthych os byddwch yn llenwi unrhyw ffurflenni ar y safle hwn. Byddwn yn defnyddio’ch data i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar wefan sgiliaucymru, i anfon manylion atoch am weithgareddau a gwybodaeth am sgiliaucymru sy’n debygol o fod o ddiddordeb i chi, yn ogystal ag ymateb i’ch sylwadau neu geisiadau penodol. Mae’r holl wybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel ac ni fydd ar gael i ddefnyddwyr eraill y wefan.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â chwmnïau cysylltiedig er mwyn darparu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt. Mae cyfle i ymeithrio rhag hyn drwy ddileu’r tic o’r blwch perthnasol ar y ffurflenni ymholiad/cofrestru trwy gydol y safle hwn neu drwy e-bostio  info@sgiliaucymru.co.uk gan nodi’ch enw llawn  a’ch cyfeiriad e-bost.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y data rydym yn eu dal amdanoch chi neu os hoffech chi wirio’r wybodaeth, anfonwch e-bost at  info@sgiliaucymru.co.uk. Os gwelwch unrhyw anghywirdebau byddwn yn eu dileu neu’n eu cywiro’n ddi-oed.