Pwy sy'n Arddangos?
Yr Amgylchedd Adeiledig
O Gynllunio a Dylunio i Adeiladu
Dysgwch ragor >
Os ydych yn gobeithio adeiladu dyfodol i'ch hun a fydd yn para, yna galwch heibio'r parth yma. Yn y parth yma ceir yr holl sgiliau mae arnoch eu hangen i godi ty, gosod teils ynddo, ei addurno, ei ddodrefnu a chreu gardd o'r radd flaenaf.Celfyddydau Diwylliannol a Chreadigol
O Flodeuwriaeth i'r Celfyddydau Perfformio
Dysgwch ragor >
Gadewch i'ch sgiliau creadigol flodeuo yn y parth yma, gyda sgiliau o flodeuwriaeth i wydro lliw pensaernïol i chi eu ceisio. Cewch roi cynnig ar y celfyddydau perfformio gan gynnwys actio, theatr gerddorol a
cherddoriaeth pop.Peiriannu
O Dechnoleg Modur i Beiriannu Mecanyddol
Dysgwch ragor >
Bydd peiriannu'n mynd a chi o hedyn cyntaf syniad i'w weld ar waith, p'un a ydych chi'n dylunio awyren, yn rhaglennu ac yn adeiladu robot, yn dylunio cynhyrchion ar system CADD neu'n weldioTG a Gweinyddu Busnes
O Gyfrifyddiaeth i Ddylunio ar gyfer y
Dysgwch ragor >
Os oes arnoch chi eisiau dyfodol allwch chi gyfrif arno yna dewch i’r parth TG a Gweinyddu Busnes a dysgu am gyfrifyddiaeth, gyrfaoedd TG, dylunio ar gyfer y we a mentergarwch.Gwasanaethau Proffesiynol a Lletygarwch
O Therapi Harddwch i Ofal Cymdeithasol
Dysgwch ragor >
Cewch greu stwr wrth ddangos eich ochr greadigol drwy goginio a chreu campweithiau toes a melysion, gosod y safon ym maes trin gwallt, paentio portreadau gyda cholur a harddwch.Cyngor, Addysg a Hyfforddiant
Oes gennych chi syniad clir o’r hyn rydych chi am ei wneud? Ydych chi’n gwybod sut fyddwch chi’n cyrraedd yno? Os oes angen ychydig yn fwy o wybodaeth arnoch chi i’ch helpu i benderfynu neu eisiau gwybod beth yw’ch opsiynau yna ymwelwch â’r parth cyngor, addysg a hyfforddiant.
Dysgwch ragor >


Partner Radio:


Dilynwch ni ar: