Theatr Sgiliau a noddir gan
Roedd sgiliaucymru yn cynnwys seminarau i’ch ysbrydoli drwy gydol y tri diwrnod.
Roedd y rhaglen seminarau arloesol yn cynnwys sesiynau difyr ac addysgiadol. Yn ddelfrydol i rywun a oedd angen cipolwg i ddod o hyd i’r swydd gywir neu’n chwilio am ysbrydoliaeth newydd, roedd y sgyrsiau poblogaidd hyn gan siaradwyr llwyddiannus ac adnabyddus yn rhad ac am ddim i’w mynychu yn ogystal ag yn arloesol ac yn adloniannol.
Roedd pob lle am y seminarau ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu felly gofynnwyd i ymwelwyr ddod yn gynnar i sicrhau sedd.
Arbrofwyon anhygoel a gyflwynir gan Techniquest
Mae Techniquest yn arbenigo mewn gwneud gwyddoniaeth yn ddiddorol, ac mae’r sesiwn ddifyr hon yn troi’r sbotolau ar yr wy. Beth all ei ddangos am gemeg, peiriannu, a ffiseg? Pam mae wy yn troi o hylif i solet pan gaiff ei wresogi pan fo’r mwyafrif o bethau’n mynd y ffordd arall? Pa mor gryf yw wy? Mae digon o gyfle i chi gymryd rhan yn yr arbrofion wy anhygoel!
Torri i mewn i ddarlledu a gyflwynir gan BBC Cymru Wales
 diddordeb mewn gyrfa yn y cyfryngau? Bydd y seminar rhyngweithiol hwn yn rhoi rhai cyfrinachau i chi am sut i gael gyrfa lwyddiannus mewn darlledu, sut mae’r BBC yn recriwtio a rhai awgrymiadau anhepgor am eu cyfleoedd lefel mynediad a’r cynlluniau hyfforddai yn y BBC.
Byddwch yn barod am ddysgu ar-lein a gyflwynir gan Ufi/learndirect Cymru
Sesiwn ryngweithiol a seilir ar greu’r amgylchedd priodol am ddysgu ar-lein. Ymunwch â’r sesiwn i archwilio rhai o’r technegau a ddefnyddir i greu cymuned e-ddysgwyr positif, gan gynnwys camau syml i fagu hyder, creu cymwysiadau ar gyfer dysgu symudol a gwneud defnydd effeithiol ar arfau poblogaidd gan gynnwys Facebook.
Oes gennych chi’r hyn mae’n cymryd i fod yn entrepreneur? a gyflwynir gan Laura Tenison
Mae gan Laura Tenison rywbeth yn gyffredin â Richard Branson, Jamie Oliver a Stella McCartney - mae wedi creu busnes llwyddiannus a gwneud arian! Yn sylfaenydd y manwerthwr dillad babi JoJo Maman Bébé ac enillydd gwobr Busneswraig y Flwyddyn y DU 2010, bydd Laura yn cynnig cipolwg ar y rhinweddau personol mae eu hangen i gynnal busnes llwyddiannus; gan rannu straeon ei thaith yrfa ei hun a’r gwersi a ddysgodd hi ar hyd y ffordd. Heb yr angen am fuddsoddwyr allanol, mae ei busnes wedi tyfu o fod yn fenter bwrdd y gegin i gwmni gwerth miliynau o bunnoedd. Os yw’ch bryd chi ar fod yn fos arnoch chi eich hun, ni ddylech golli’r cyfle hwn.
Llwyddo yn y cyfryngau a gyflwynir gan Gavin Esler
Mae Gavin Esler yn gyflwynydd enwog, yn awdur ac yn ddarlledydd Newsnight y BBC sydd wedi ennill gwobrau. Mae’r sesiwn hon yn cynnig y cyfle i chi gwrdd â Gavin a chael hanes gwirioneddol ei yrfa hyd yma, ei lwybr at lwyddiant gan gynnwys y pwyntiau uchel ac isel a’r bobl enwog mae wedi cyfweld â nhw. Cyfle gwych i godi cynghorion os hoffech chi fod yn newyddiadurwr neu’n ddarlledydd llwyddiannus ym myd cyflym y cyfryngau.
Symud ymlaen? a gyflwynir gan Theatr Fforwm Cymru
Perfformiad sy’n edrych ar rai o’r rhwystrau i symud ymlaen mewn bwyd. Ai…pobl eraill…strwythurau…“heddlu yn y pen” neu gymysgedd yw’r rhain. Bachwch y cyfle hwn i nodi’r problemau i’n prif gymeriad a helpwch nhw i gymryd y camau mae eu hangen i symud ymlaen.
Cyfrinachau gyrfa yn y cyfryngau a gyflwynir gan Esther Rantzen
Mae gyrfa Esther Rantzen yn rhychwantu mwy na 40 mlynedd ac yn cynnwys cyflwyno 'That's Life' a gyrhaeddodd gynulleidfa ar ei frig o fyw na 18 miliwn, ymddangosiadau yn I'm a Celebrity...Get Me Out of Here a Strictly Come Dancing, sefyll yn ymgeisydd seneddol a sefydlu’r llinell gymorth i blant ChildLine. Bydd y sesiwn hon yn rhoi’r cyfle i chi glywed sut mae wedi goroesi yn y diwydiant a chynnal gyrfa hynod lwyddiannus fel newyddiadurwr ac fel cyflwynydd.
Cystadlaethau sgiliau a gyflwynir gan Gareth Evans a Cliff Williams, seiri a chyn gystadleuwyr
Sut gall cystadlaethau sgiliau agor drysau i’ch dyfodol chi…dewch draw i ddysgu am brofiadau Gareth a Cliff yn ystod eu hamser yn cystadlu a dysgwch y cynghorion gorau i’ch helpu i gyflawni llwyddiant yn eich maes dewisol. Oes gennych chi’r hyn mae’n cymryd i fod yn gystadleuydd llwyddiannus?
Meddwl am y dyfodol: Pa opsiynau sydd yna? a gyflwynir gan Yrfa Cymru
Archwiliwch ba opsiynau gyrfa sydd ar gael i bobl ifanc. Beth ydych chi eisiau ei wneud nesaf? Fe allech chi aros yn yr ysgol, mynd i’r coleg, dechrau hyfforddiant seiliedig ar waith, gwneud cais am Brentisiaeth neu fynd yn syth i mewn i swydd. Nod y sesiwn yma yw eich helpu i ddewis y llwybr cywir i chi.
Sut gall arweinyddiaeth a sgiliau wneud gwahaniaeth a gyflwynir gan Tim Tindle
Paratowch i gael eich ysbrydoli. Mae Tim Tindle, Rheolwr Gyfarwyddwr Imperial Machine Company, Wrecsam yn arweinydd busnes gyda llwyddiant rhyngwladol; mae ganddo hanes profedig mewn datblygu, tyfu ac adleoli busnesau llwyddiannus. Mae Tim yn gwybod beth mae cyflogwr yn chwilio amdano a chred yn gryf yn yr angen i sgiliau gael eu datblygu trwy gydol gyrfa unigolyn. Bydd ei sgwrs ysbrydoledig yn eich cymell ac yn eich herio i ysgwyddo rhagor o sgiliau a’ch annog i yrru’ch gyrfa ymlaen ym mha gyfeiriad bynnag rydych am ei ddilyn.
Sgiliau am yrfa lwyddiannus yn y sector cyhoeddus a gyflwynir gan Rachel Lomax
Rachel yw cyn Dirprwy Lywodraethwr Banc Lloegr ac yn gyn swyddog y llywodraeth. Yn ystod y sesiwn hwn, bydd yn rhannu ei phrofiad fel gwas sifil ac fel economegydd a’r sgiliau mae eu hangen. Byddwch chi’n dysgu sut allwch chu ddatblygu gyrfa lwyddiannus mewn gwasanaeth cyhoeddus.
Sgiliau meddwl a gyflwynir gan CBAC
Gweledol, Clybodol neu Ginesthetig? Gwellwch eich sgiliau meddwl a’ch cynhyrchedd gyda CBAC.
Dysgwch ba fath o ddysgwch ydych chi a sut i uchafu’ch potensial dysgu. Trwy gyfres o dasgau syml a difyr, mae CBAC yn bwriadu datgloi eich potensial dysgu – beth bynnag eich lefel. Drwy ddefnyddio ymarferion ymennydd rhwydd a chyffrous gallwch chi gic-gychwyn eich dysgu a hwyluso’ch hun i’ch llwybr dewisol.
Bod, neu CBAC, dyna’r cwestiwn… a gyflwynir gan CBAC
Ai chi yw’r Emma Watson neu Robert Pattinson nesaf? Sheila Hancock neu Anthony Hopkins? Bydd y sesiwn blasu actio yn eich helpu i ddysgu mwy am y TGAU mewn Celfyddydau Perfformio sy’n ddelfrydol ar gyfer datblygu sgiliau perfformio ymarferol ac yn ymgorffori llawer o ddewisiadau galwedigaethol gan gynnwys actio, technoleg cerddoriaeth, sgiliau syrcas a sgiliau cynhyrchu technegol. Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwrando, crefft llwyfan a sgiliau llais mewn ffordd egnïol a difyr i ddiddori dysgwyr o bob oedran.


Partner Radio:


Dilynwch ni ar: